Beth yw Fy Iechyd Ar-lein?
Mae Fy Iechyd Ar-lein yn wasanaeth diogel ar y rhyngrwyd sy’n eich galluogi i:
- Rheoli Apwyntiadau – Gallwch drefnu, canslo a gweld apwyntiadau presennol ar-lein.
- Rheoli Presgripsiynau Amlroddadwy - Gallwch weld ac archebu presgripsiynau amlroddadwy ar-lein.
- Gweld a Diweddaru Data Demograffig – Gallwch weld a diweddaru mathau penodol o ddata demograffig sydd gan eich meddygfa.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.