Pa borwyr sy’n cydweddu â Fy Iechyd Ar-lein?

Ni ddylech gael unrhyw broblem cyrchu Fy Iechyd Ar-lein trwy’r porwyr ar eich ffôn clyfar neu’ch llechen. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu liniadur, gwnewch yn siŵr bod un o’r porwyr canlynol wedi cael eu gosod:

  • Safari
  • Google Chrome
  • Firefox
  • Internet Explorer 11 ac uwch

Gwnewch yn siŵr bod JavaScript wedi cael ei alluogi, gan na fydd Fy Iechyd Ar-lein yn gweithio hebddo.

Yn unol â'r cyhoeddiad ar 12 Ionawr 2016, mae Microsoft wedi stopio cynnal fersiynau hŷn o Internet Explorer, felly, os ydych yn defnyddio Internet Explorer 10 neu is, bydd angen i chi uwchraddio cyn gynted â phosibl.

Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.