Sut ydw i’n mewngofnodi i Fy Iechyd Ar-lein?

Ar ôl i chi gofrestru ac ysgogi eich cyfrif, gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein sydd ar gael yn eich meddygfa.

I mewngofnodi:

  1. Ar www.fyiechydarlein-inps2.cymru.nhs.uk, dewiswch eich dewis iaith.
  2. Rhowch eich Enw defnyddiwr ac yna eich Cyfrinair.
  3. Dewiswch Mewngofnodi:

Rydych bellach wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Fy Iechyd Ar-lein ac yn cael cynnig y gwasanaethau y mae eich practis meddyg teulu wedi tanysgrifio iddynt.

Sylwer - Os ydych chi wedi anghofio eich Enw Defnyddiwr neu Gyfrinair, dewiswch Angen help i gael mynediad i'ch cyfrif? i gael eich ailgyfeirio i’r dudalen Adfer Cyfrif.
Pwysig - Ar ôl uchafswm o 5 o geisiadau aflwyddiannus i fewngofnodi, caiff eich cyfrif Fy Iechyd Ar-lein ei gloi. Os bydd hyn yn digwydd, caiff eich cyfrif ei ddatgloi fel mater o drefn ar ôl 4 awr. Os bydd eich cyfrif yn parhau wedi'I gloi ar ôl 4 awr, dewiswch yr opsiwn Cysylltu â Gwasanaeth Cymorth y Wefan yn y gornel waelod ar yr ochr chwith. Ni fydd eich meddygfa’n gallu helpu â’r broblem hon.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.