Sut ydw i'n ail-gysylltu fy nghyfrif Fy Iechyd Ar-lein?

Os ydych chi wedi newid meddygfa, neu wedi datgysylltu eich cyfrif Fy Iechyd Ar-lein am ryw reswm arall, ac eisiau dechrau ei ddefnyddio eto, mae angen i chi ailgysylltu eich cyfrif.

Sylwer - Ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein gyda meddygfeydd sy'n defnyddio Vision fel eu system glinigol yn unig.

I ailgysylltu eich cyfrif:

  1. Yn gyntaf, bydd angen i chi gysylltu â'ch meddygfa i ofyn am lythyr cofrestru.
  2. Ar ôl i chi gael llythyr, mewngofnodwch i'ch cyfrif Fy Iechyd Ar-lein yn y ffordd arferol.
  3. Caiff neges 'Nid ydych chi wedi cysylltu â chyfrif meddygfa eto' yn ymddangos. Dewiswch Cysylltu Yma.

  4. Bydd y dudalen Cysylltu yn ymddangos. Rhowch Rhif Adnabod y Feddygfa o'r llythyr a dewiswch Cyflwyno.
  5. Rhowch Rif Adnabod y Cyfrif ac Allwedd Gysylltu (Awgrym - os ydych chi'n cyrchu'r wybodaeth o neges e-bost, gallwch gopio a phastio'r manylion hyn):

  6. Dewiswch Cysylltu.
  7. Caiff y neges ganlynol ei harddangos:

Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.