Mae manylion rhywun arall yn ymddangos yn y blychau mewngofnodi

Os byddwch yn mynd i wefan Fy Iechyd Ar-lein ar gyfrifiadur a rennir, efallai y bydd manylion unigolyn arall yn ymddangos yn y blwch mewngofnodi.

Efallai bod hyn wedi digwydd oherwydd bod rhywun wedi cytuno â’r opsiwn cadw manylion, y mae rhai porwyr yn ei gynnig.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi ddileu’r cwcis yn eich porwr rhyngrwyd a chlirio’r hanes pori.

Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn, gwiriwch help eich porwr rhyngrwyd i gael mwy o gymorth.

Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.