Nid yw fy nghyfeiriad e-bost wedi cael ei gadarnhau – Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi wedi newid eich cyfeiriad e-bost ond heb gadarnhau’r newid trwy glicio ar y ddolen yn y neges e-bost a anfonwyd atoch, ni fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw swyddogaeth ar-lein. Mae baner yn ymddangos ar frig y sgrin Croeso.
Os nad ydych wedi derbyn neges e-bost i gadarnhau eich cyfrif, gallwch wneud cais am un arall gan ddefnyddio’r opsiwn Cliciwch yma i ail-anfon neges e-bost cadarnhau i ail-anfon y neges gadarnhau.
Bydd dolen ar eich tudalen groeso hefyd i roi gwybod i chi nad yw’ch cyfeiriad e-bost yn cydweddu, ac yn eich gwahodd chi i ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost (a gedwir yn y feddygfa) fel mater o drefn.