Rwyf wedi anghofio fy Enw defnyddiwr – Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi wedi anghofio eich Enw defnyddiwr:

  1. O Fy Iechyd Ar-lein- Mewngofnodi, dewiswch Oes angen help arnoch I fynd at eich cyfrif?:

  2. Bydd y sgrin Adfer Cyfrif yn ymddangos, dewiswch Wedi anghofio’ch enw defnyddiwr:

  3. Bydd gofyn i chi ychwanegu’ch cyfeiriad e-bost a rhoi tic wrth ymyl I’m not a robot:

  4. Mewnbynnwch y cyfeiriad e-bost a roesoch i'ch practis meddygon teulu a dewiswch Adfer enw defnyddiwr.

Sylwer – Os yw'ch cyfeiriad e-bost yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un claf, er enghraifft, ar gyfer eich plant neu rywun rydych chi'n gofalu amdano/amdani, gofynnir i chi nawr i nodi'ch Enw Cyntaf, Eich Cyfenw a'ch Dyddiad Geni ac yna dewiswch Adfer enw defnyddiwr.

Bydd neges e-bost yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad e-bost a fydd yn cynnwys eich enw defnyddiwr.

Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.