Rwy’n cael anawsterau technegol – Beth ddylwn i ei wneud?

Pwysig – Mae hwn ar gyfer rhoi gwybod am broblemau neu geisiadau technegol ar gyfer y wefan yn unig. Os oes gennych ymholiad ynghylch apwyntiad neu eich presgripsiwn neu unrhyw gwestiynau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, cysylltwch â’ch meddygfa yn uniongyrchol.

Os cewch chi broblemau technegol, defnyddiwch y ddolen Cysylltu â Gwasanaeth Cymorth y Wefan ar waelod y sgrin.

Rhaid rhoi’r wybodaeth ganlynol i ganiatáu i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fynd i’r afael â’r broblem yn effeithiol:

  • Eich enw – Rhowch eich enw llawn. Caiff ei lenwi fel mater o drefn, ac felly ni fydd yn weladwy os ydych chi wedi mewngofnodi.
  • Rhif adnabod practis – Defnyddiwch y cyfleuster chwilio i ddod o hyd i’ch meddygfa neu rhowch rif adnabod y feddygfa, os ydych yn ei wybod. Caiff ei lenwi fel mater o drefn, ac felly ni fydd yn weladwy os ydych chi wedi mewngofnodi, ond gallwch dicio 'Nid wyan gwybod rhif adnabod fy mhractis', os oes angen.
  • Eich cyfeiriad e-bost – Eich cyfeiriad e-bost cofrestredig. Caiff ei lenwi fel mater o drefn, ac felly ni fydd yn weladwy os ydych chi wedi mewngofnodi.
  • Eich problem – Cwymplen yw hon. Dewiswch o’r opsiynau sydd ar gael.
  • Neges – Rhowch unrhyw wybodaeth ychwanegol yma. Cofiwch, ni ddylid rhoi unrhyw wybodaeth glinigol yn y neges hon (uchafswm o 400 nod).
  • Ticiwch – I gadarnhau eich bod chi’n deall bod y wybodaeth hon yn cael ei hanfon at Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn hytrach na’ch meddygfa, a’ch bod chi heb gynnwys unrhyw wybodaeth feddygol ar y ffurflen hon.
  • Ticiwch I’m not a robot i gadarnhau:

Cliciwch Anfon. Bydd neges e-bost gadarnhau yn cael ei hanfon atoch a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl:

Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.