Sut ydw i’n newid fy nghyfeiriad e-bost?

I newid y cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar gyfer negeseuon cadarnhau a negeseuon atgoffa:

  1. Mewngofnodwch i Fy Iechyd Ar-lein gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr presennol, a dewiswch Fy Nghyfrif.
  2. Mae E-bost yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost presennol, dewiswch newid.
  3. Bydd y sgrin Newid Cyfeiriad E-bost yn ymddangos:

  4. Cwblhewch, fel y bo’n briodol, gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost newydd a’ch cyfrinair Fy Iechyd Ar-lein arferol.
  5. Dewiswch Diweddaru.
  6. Cewch eich annog fel a ganlyn: "Cadarnhewch eich cyfeiriad e-bost trwy glicio ar y ddolen yr ydym wedi’i hanfon mewn neges e-bost atoch".
  7. Gwiriwch eich cyfrif e-bost a chliciwch ar y ddolen yn y neges e-bost er mwyn dilysu'r newid i'r cyfeiriad e-bost
  8. Bydd sgrin Cadarnhau Cyfeiriad E-bost Fy Iechyd Ar-lein yn ymddangos i gadarnhau.
  9. I sicrhau eich bod chi’n derbyn yr holl negeseuon cadarnhau perthnasol, cliciwch ar y ddolen i ddiweddaru’r manylion yn eich meddygfa.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.