Sut ydw i'n datgysylltu fy nghyfrif o'm meddygfa?

Os ydych chi'n newid eich meddygfa, mae angen i chi ddatgysylltu eich cyfrif Fy Iechyd Ar-lein o'ch meddygfa bresennol.

I ailosod eich cyfrif:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif Fy Iechyd Ar-lein yn y ffordd arferol.
  2. Dewiswch Fy nghyfrif:

  3. Dewiswch Ailosod y Cyfrif.
  4. Caiff y neges Ailosod y Cyfrif ei harddangos:

  5. Darllenwch y rhybudd 'Bydd ailosod eich cyfrif...' a thiciwch Rwy'n cadarnhau fy mod i eisiau ailosod fy nghyfrif a cholli mynediad at wasaanethau ar-lein. Os ydych chi'n siwr eich bod chi eisiau parhau, dewiswch Parhau.
  6. Caiff y neges Mae eich cyfrif wedi cael ei ailosod ei harddangos:

I ailgysylltu eich cyfrif Fy Iechyd Ar-lein presennol i feddygfa newydd, gweler Sut ydw i'n ail-gysylltu fy nghyfrif Fy Iechyd Ar-lein?

Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.